Cymraeg Morgannwg Map

 


Cefndir
Mae tueddiad i feddwl taw yng nghadarnleoedd y Canolbarth a’r Gogledd mae gwir hanes yr Iaith Gymraeg er bod yna dreftadaeth ieithyddol gyfoethog, nad ydy pobl yn gyffredinol yn ymwybodol iawn ohono, yng nghymunedau de Cymru.  Yn ogystal, mae yna bresennol bywiog a diddorol gyda thueddiadau ac acenion gwych sy’n dueddol o gael eu beirniadu yn hytrach na’u dathlu.   Mae yna dri tho y gellid gweithio gyda nhw i gofnodi a dathlu treftadaeth yr Iaith Gymraeg; y to hŷn sy’n cofio Cymraeg mwy traddodiadol yn eu cymunedau, y to canol a brofodd y shifft ieithyddol o’r Gymraeg i’r Saesneg a’r to ifanc o siaradwyr Cymraeg newydd sy’n cael profiadau gwbl wahanol yn eu mamiaith.  

Mae ein prosiect yn cyflogi swyddog i Fenter Iaith Abertawe sydd yn gweithio gyda grwpiau o bobl i ymchwilio a chofnodi etifeddiaeth y Gymraeg yng Nghymunedau’r De-Ddwyrain.  Bydd y swyddog yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r 6 menter arall i ddatblygu prosiectau cofnodi treftadaeth amrywiol yn dibynnu ar ddiddordebau penodol y cymunedau.  Y bwriad yw i weithio dros gyfnod o ddwy flynedd ar brosiectau creadigol, amrywiol yn dathlu uchaf - ac isafbwyntiau’r Iaith ar lefel gymunedol ac arddangos y gwaith mewn stondin pwrpasol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006.  Yna, fe fydd modd i’r arddangosfa deithio i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd ledled y De.  Fe fydd y prosiectau yn defnyddio nifer o gyfryngau yn dibynnu ar ddyheadau ac oedrannau’r cymunedau a hefyd ar gyngor oddi wrth sefydliadau proffesiynol eraill.

Bydd y prosiect yn ehangu cyfleoedd i ddysgu am dreftadaeth mewn dwy ffordd.  Yn gyntaf, fe fydd yn gyfle i’r grwpiau sy’n ymwneud â’r prosiect yn dysgu am eu treftadaeth dwy gynnal ymchwil ac yn ail bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn dysgu am dreftadaeth ir Iaith yn y De ddwyrain drwy gyfrwng yr arddangosfeydd a fydd yn dangos gwaith y grwpiau.  Bydd modd arddangos y gwaith mewn sefydliadau amrywiol yn dibynnu ar natur y gwaith a ddaw o’r grwpiau a’r cynulleidfaoedd y maent am dargedu.

 

Gwybodaeth am ddatblygiad y Prosiect o 2005 >> Newyddion

 

Mentrau Iaith

Mae'r Prosiect hwn yn cael ei redeg gan Mentrau Iaith Morgannwg Gwent partneriaeth o wyth Menter Iaith yn Ne Ddwyrain Cymru. Rheolir y prosiect o ddydd i ddydd gan Menter Iaith Abertawe.
Mentrau Iaith Morgannwg Gwent
Arianwyd y prosiect cychwynnol yn bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Cronfa Treftadaeth y Loteri

Ariennir y Mentrau Iaith gan Lywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

 

Cymraeg MorgannwgMentrau