Cymraeg Morgannwg Map

 

Hanes yr Iaith Gymraeg

 

Brasluniau o Hanes y Gymraeg o hen wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2008 a 2011

Hanes  

 

Iaith Geltaidd yw'r Gymraeg, sy'n perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Mae'r Gymraeg a siaradir heddiw wedi datblygu o’r chweched ganrif.

Hyd at ganol yr 19eg ganrif, roedd rhan fwyaf o boblogaeth Cymru’n medru siarad Cymraeg – dros 80%. Dros y canrifoedd diwethaf mae sawl ffactor wedi effeithio ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg – dyma rhai o’r ffactorau mwyaf blaenllaw:

• Deddfau Uno 1536 a 1542: y deddfau yma wnaeth uno Cymru a Lloegr, a gwneud Saesneg yn iaith cyfraith a gweinyddiaeth Cymru. Er na chafodd yr iaith ei gwahardd gan y ddeddf, arweiniodd hyn at ddirywiad y Gymraeg am ganrifoedd.

• Cyfieithu’r Beibl 1588 gan yr Esgob William Morgan: Bu hyn yn hwb mawr i’r iaith oherwydd sicrhaodd mai’r Gymraeg oedd iaith crefydd ac addoli, a chadwodd y Gymraeg yn fyw o fewn cymunedau.

• Chwyldro Diwydiannol 18-19 Ganrif: Dyma achosodd y gwymp fwyaf mewn siaradwyr Cymraeg oherwydd y mewnlifiad anferth o bobl i’r ardaloedd diwydiannol. Cwympodd nifer y siaradwyr Cymraeg i 50% o’r boblogaeth.
Parhaodd y gostyngiad hyn drwy’r Ugeinfed Ganrif am sawl rheswm:
• patrymau ymfudo o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol i chwilio am waith 
• mewnfudiad siaradwyr Saesneg i ardaloedd gwledig 
• mwy a mwy o gyfryngau newyddion ac adloniant, drwy gyfrwng y Saesneg 
• datblygiad cymdeithas sy'n gyffredinol yn fwy seciwlar, yn arwain at leihad dylanwad y capeli - canolbwynt llawer o weithgareddau Cymraeg traddodiadol. 

Presennol:
Mae Cyfrifiad 2001 yn dangos fod 20.8% o boblogaeth Cymru'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Gellir gweld dadansoddiadau, mapiau a phapurau briffio am gyfrifiad 2001 ar lyfrgell gyhoeddiadau'r wefan hon. Bydd y Cyfrifiad nesaf yn 2011 ac mae’n debygol y bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn ystod 2013.
Mae mwy o wybodaeth am ddatblygiad yr iaith ar gael ar wefan Hanes y Gymraeg y BBC.

 

Hanes y Gymraeg (2008)
Yr iaith o'r cychwyn

Iaith Geltaidd yw'r Gymraeg, sy'n perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Mae'r Gymraeg sy’n cael ei siarad heddiw yn ddatblygiad uniongyrchol i iaith y chweched ganrif. 

Ychydig iawn o enghreifftiau ysgrifenedig o Gymraeg Cynnar sy’n bodoli heddiw, gyda'r cynharaf yn dyddio o ganol y nawfed ganrif. Gwelir nodweddion Hen Gymraeg yng ngwaith y Cynfeirdd, sy'n dyddio o ddiwedd y chweched ganrif, er fod y llawysgrifau'n llawer mwy diweddar. 

Tudalen o lyfr Aneirin, un o lawysgrifau cynharaf y Gymraeg
Canu Aneirin yw'r enwocaf o’r rhain, ac er mai Cymraeg yw iaith y gwaith, fe'i cyfansoddwyd yn ne'r Alban a gogledd Lloegr, lle 'roedd y Gymraeg yn cael ei siarad ar y pryd. 
Y Mabinogi

Llun o Pwyll, Pendefig Dyfed yn hela (Mabinogi)

 

Yn ddi-os, un o weithiau enwocaf llenyddiaeth Cymru yw'r Mabinogi – cyfres o straeon a gofnodwyd rhywbryd rhwng 1050 a 1170, ond sydd, yn llawer hŷn na hynny, gan iddynt gael eu pasio o genhedlaeth i genhedlaeth yn null y Cyfarwydd – yr adroddwr straeon – dros gyfnod o ganrifoedd. 

Er mai'r pedair stori sy'n creu Pedair Cainc y Mabinogi – Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan, a Math fab Mathonwy – yw’r enwocaf o'r gyfres, ceir nifer o straeon eraill, gan gynnwys Iarlles y Ffynnon, Breuddwyd Rhonabwy a Culhwch ac Olwen.

Y Gymraeg 1200 - 1600 
Yr Oesoedd Canol 
Felly, erbyn y cyfnod Normanaidd cynnar, 'roedd llawer o enghreifftiau o lenyddiaeth Cymraeg ar gael, yn enwedig wrth i hen straeon a barddoniaeth, a basiwyd o genhedlaeth i genhedlaeth gael eu cofnodi'n barhaol.
'Roedd hwn yn gyfnod pwysig o ran barddoniaeth Gymraeg, gyda mân arglwyddi a thywysogion ym mhob rhan o Gymru yn noddi beirdd yn eu llys. Gwaith y beirdd oedd cynhyrchu cerddi mawl i'r tywysogion a'r arglwyddi, gan ddisgrifio'u dewrder ar faes y gad. 'Beirdd yr Uchelwyr' yw'r enw a roddir ar y Beirdd hyn. 

Yn dilyn goresgyn byddin Llywelyn ap Gruffudd, parhaodd y traddodiad o noddi beirdd ymysg yr uchelwyr, ac yn ddi-os, yr enwocaf o feirdd y cyfnod oedd Dafydd ap Gwilym.
'Roedd ei farddoniaeth llawn hiwmor yn chwa o awyr iach mewn cyfnod anodd yn hanes Cymru. Yn wahanol i'r Gogynfeirdd, serch a natur oedd prif fyrdwn gwaith Dafydd ap Gwilym, ac mae’i waith yn parhau'n boblogaidd, nid yn unig yn y Gymraeg, ond mewn cyfieithiadau i nifer o ieithoedd eraill.
Er i siaradwyr Saesneg a Ffrangeg lifo i Gymru yn ystod y cyfnod hwn, Cymraeg oedd prif iaith Cymru trwy gydol y canol oesoedd, gyda nifer fawr o’r boblogaeth yn uniaith Gymraeg. 'Roedd gan wahanol ardaloedd o Gymru eu tafodiaith eu hunain – er enghraifft Gwyndoleg yn ardal Gwynedd, a Gwenhwyseg yn ardal Gwent.

Deddfau Uno 1536 a 1542
Gwelwyd newid mawr yn y defnydd swyddogol o'r Gymraeg yn dilyn pasio Deddfau Uno 1536 a 1542, ac yn wir, ni welwyd yr iaith yn cael ei defnyddio’n swyddogol eto, tan ar ôl pasio Deddf Llysoedd Cymru yn 1942.
Bwriad y Ddeddf Uno oedd gwneud Cymru'n rhan o Loegr, a thrwy hynny, deddfwyd mai Saesneg fyddai iaith cyfraith a gweinyddiaeth yng Nghymru, ac na fyddai modd i unrhyw berson uniaith Gymraeg ddal swydd gyhoeddus o hyn ymlaen. Er na chafodd yr iaith ei gwahardd gan y ddeddf, collodd y Gymraeg ei statws, ac arweiniodd hyn at ganrifoedd o farwolaeth ieithyddol. 

Cyfieithu'r Beibl
Byddai'r iaith Gymraeg wedi bod mewn perygl dirfawr yn ystod y cyfnod Tuduraidd, oni bai am un datblygiad a digwyddiad hynod bwysig ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, a sicrhaodd Gymraeg ysgrifenedig safonol.
Cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, a chan fod Cymru'n wlad lle ‘roedd crefydd yn rhan bwysig o fywyd y boblogaeth, bu hyn yn hwb mawr i'r iaith. Felly, er mai Saesneg oedd iaith busnes swyddogol yng Nghymru, sicrhaodd cyfieithu'r Beibl mai Cymraeg oedd iaith crefydd ac addoli ar lawr gwlad. 
Y Gymraeg o 1600 - 1900 

Erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif, 'roedd nifer fawr o bobl gyffredin Cymru wedi troi'u cefnau ar yr eglwys, ac yn addoli yn y capeli anghydffurfiol, a oedd yn prysur ddatblygu ym mhob rhan o Gymru. Daeth y capel yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg y cyfnod. 

 

Llun o garreg goffa Ellis Wynne



Bu hwn hefyd yn gyfnod prysur ym maes llenyddiaeth Gymraeg, gyda chyhoeddi gweithiau megis Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne, a Cannwyll y Cymru gan y Ficer Prichard. Llyfr poblogaidd a phwysig arall a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwn oedd cyfrol Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd, cyfrol yn olrhain hanes Cymru drwy'r oesoedd, ac erbyn 1900 'roedd y gyfrol wedi’i hail argraffu o leiaf ugain o weithiau. 

Llun o bwll glo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Yn sgil datblygiadau yn y maes cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg, daeth llythrennedd yn fwy fwy pwysig i bobl gyffredin ar hyd a lled Cymru a gweddill Prydain, a bu'r Ysgol Sul ynghyd â'r ysgolion cylchynol a ddatblygwyd gan Griffith Jones Llanddowror, yn hwb mawr i lythrennedd, wrth i fwy a mwy o bobl Cymru ddysgu darllen y Beibl a chyfrolau crefyddol eraill. 

Cyhoeddwyd dros 2500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y ddeunawfed ganrif yn unig, i ymateb i alw pobl Cymru am ddeunydd i'w ddarllen. 

Gwelodd y Chwyldro Diwydiannol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg newid eto yn yr iaith yng Nghymru. Ar ddechrau'r ganrif, 'roedd 80% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg, ond dyma'r cyfnod pan welwyd Saesneg yn dod yn brif iaith rhai rhannau o'r wlad. 

Gwelwyd mewnlifiad mawr i ardaloedd diwydiannol y de yn ystod y cyfnod hwn, a chafodd hyn effaith mawr ar yr iaith yng Nghymru dros y blynyddoedd canlynol, gan fod nifer siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 80% o’r boblogaeth i 50% erbyn diwedd y ganrif.

Y Gymraeg hyd Heddiw 
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd bron i hanner poblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Cofnododd Cyfrifiad 1911 fod bron i filiwn o bobl yn eu hystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg. Mae adroddiad am bob un cyfrifiad sydd wedi gofyn cwestiwn am y Gymraeg ar gael ar y wefan hon. 

Ers hynny, syrthiodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyson tan yn weddol ddiweddar, am nifer o resymau gwahanol, fel: 

  • patrymau ymfudo o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol i chwilio am waith 
  • mewnfudiad siaradwyr Saesneg i ardaloedd gwledig 
  • mwy a mwy o gyfryngau newyddion ac adloniant, drwy gyfrwng y Saesneg 
  • datblygiad cymdeithas sy'n gyffredinol yn fwy seciwlar, yn arwain at leihad dylanwad y capeli, a fu'n ganolbwynt cymaint o weithgareddau Cymraeg traddodiadol 

Map Cyfrifiad 2001 o Gymru yn dangos nifer o siaradwyr Cymraeg fesul adrannau etholiadol

Arweiniodd y ffactorau hyn gyda'i gilydd at ddirywiad yr iaith mewn nifer o gymunedau a fu unwaith bron yn gwbl Gymraeg eu hiaith. 

Erbyn 1991, er fod y nifer o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith yn dal dros hanner miliwn (508,098), roedd hyn yn cynrychioli 18.7 y cant yn unig o'r boblogaeth. 

Am resymau technegol yn ymwneud â'r ffordd y mae canlyniadau gwahanol Gyfrifiadau'n cael eu cyflwyno, nid yw'n hawdd cymharu canlyniadau 1991 â'r rhai cynharach. Serch hynny, gellir cymharu canlyniadau 1981 a 1991, ac ar sail hyn, mae canlyniadau 1991 a 2001 yn galonogol. 

Yn fwyaf arwyddocaol, gwelwyd yng nghanlyniadau Cyfrifiad 1991 gynnydd yn y niferoedd a'r canran o bobl ifanc oedd yn gallu siarad Cymraeg - a phobl ifanc wrth gwrs yw dyfodol yr iaith. Parhaodd y duedd hon y tu hwnt i 1991 ac fe'i hadlewyrchir yng nghanfyddiadau Cyfrifiad 2001 a gyhoeddwyd yn 2003. Cofnododd y cyfrifiad hwn fod 20.8% o boblogaeth Cymru'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Rydym wedi dadansoddi'r Cyfrifiad hwn yn fanwl ac mae'r dadansoddiadau, yn fapiau a phapurau briffio ar gael yn llyfrgell gyhoeddiadau'r wefan hon. 

 

 

 

Cymraeg MorgannwgMentrau