Amcan
21/12/2005
Creu cronfa ddata/banc electronig o wybodaeth ar hanes y Gymraeg yn Abertawe dros y 100 mlynedd diwethaf.
Yn benodol ar Eisteddfodau ac Addysg Gymraeg yn Abertawe. Felly, dyma greu cofnod gweledol a chlywedol o'r Gymraeg, e.e. lluniau digidol, sain, a ffilm. Cynllunio gwefan i farchnata'r banc, ac er mwyn galluogi iddo gael ei ddefnyddio'n eang gan y gymuned.
Eisteddfodau Genedlaethol Abertawe.
Mae saith Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn Abertawe ag un i ddod yn 2006.
Gwneud ymchwil am yr Eisteddfodau sydd wedi bod yn Abertawe yn ôl rhaglen y dydd, cyfansoddiadau, lluniau prif fuddugwyr a.y.b.
Tynnu lluniau o bopeth ar gael, a chyflwyno'r arddangosfa yn gyhoeddus fel Quadrant Abertawe, amgueddfeydd.
Llenorion. Perfformwyr, Actorion, Cantorion Abertawe
Gwneud ymchwil mewn i'w gwaith yn y gorffennol e.e. Neil Rosser.
Tynnu lluniau o ddarnau o waith, eu cartrefi, ardaloedd arbennig.
Gwneud rhyw fath o hunan bortread o bob person.
Tynnu lluniau o bopeth ar gael, a chyflwyno'r arddangosfa yn gyhoeddus fel Quadrant Abertawe, amgueddfeydd.
Addysg Gymraeg yn Abertawe
Mae yna ddeg ysgol Gymraeg yn ardal Abertawe.
Gwneud ymchwil i weld pa ysgolion sydd fwyaf hen/newydd, poblogaeth o blant/staff, yr adeilad, lleoliad.
Tynnu lluniau o bopeth ar gael, a chyflwyno arddangosfa yn gyhoeddus fel Quadrant Abertawe, amgueddfeydd, ysgolion.
Cymdeithasau Cymraeg, Capeli Cymraeg, Corau, Eisteddfodau Lleol,
Mi fydd y rhain i gyd yn cael i ymchwilio mewn i yn debyg iawn i'r tri phwnc uwchben yn ôl hanes y lle, hanes y grwp, gwahaniaeth rhwng y gorffennol a dyfodol, obligate.
Tynnu lluniau o bopeth ar gael, a chyflwyno arddangosfa yn gyhoeddus fel Quadrant Abertawe, amgueddfeydd ayyb .
|
|