Cymraeg Morgannwg Map

Abertawe

Eisteddfod Genedlaethol

Hanes

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd yn ôl i 1176. Dywedir i'r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal dan nawdd Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi y flwyddyn honno. Yno, cynhaliwyd ymryson, a gwahoddwyd beirdd a cherddorion o bob cwr o'r wlad i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Rhoddwyd cadair wrth fwrdd yr Arglwydd i'r cerddor a'r bardd buddugol, traddodiad sydd yn parhau hyd heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Drwy'r canrifoedd wedi 1176 bu nifer o eisteddfodau o dan nawdd tywysogion ac uchelwyr ledled Cymru. Yn 1819, bu Eisteddfod bwysig yn yr Ivy Bush Inn, yng Nghaerfyrddin. Yno bu cysylltiad ffurfiol rhwng yr Orsedd a'r Eisteddfod am y tro cyntaf. Erbyn hyn roedd yr Eisteddfod wedi datblygu i fod yn wyl werin gynhwysfawr.
Ym 1880, ffurfiwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a chafodd y cyfrifoldeb am sicrhau cynnal gwyl flynyddol yn y de a'r gogledd bob yn ail bob blwyddyn, ac ar wahan i 1914 a 1940, llwyddwyd i wneud hynny.
Gorsedd y Beirdd
Mae aelodau Gorsedd y Beirdd yn cynnwys beirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i Gymru. Ymysg yr aelodaeth ceir unigolion megis y canwr opera byd enwog Bryn Terfel, cricedwr tîm criced Lloegr Robert Croft, cyn arweinydd y Blaid Lafur yn Nhy'r Arglwyddi, Arglwydd Cledwyn o Benrhos, a'r cyn-chwaraewyr rygbi, Gareth Edwards a Ray Gravel.
Ffrwyth dychymyg Iolo Morgannwg yw'r Orsedd, un o ysgolheigion mwyaf egsentrig Cymru, a deimlai y dylid pwysleisio'r ffaith bod diwylliant a threftadaeth y Celtiaid yn perthyn i'r Cymry. Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ym 1792, Primrose Hill, Llundain. Yn Eisteddfod Caerfyrddin ym 1819 cafwyd cysylltiad am y tro cyntaf rhwng yr Orsedd a'r Eisteddfod, ac ers sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ym 1860 / 1861, mae perthynas agos wedi ei meithrin.
Pennaeth Gorsedd y Beirdd yw'r Archdderwydd, fe'i hetholir am dymor o dair mlynedd, ac ef sydd yn gyfrifol am lywyddu seremonïau'r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod pan gynhelir tair seremoni i anrhydeddu gweithiau llenyddol beirdd a llenorion o Gymru.

Seremoniau'r Orsedd
Cynhelir tair seremoni dan nawdd yr Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, y Coroni i anrhydeddu'r bardd sy'n canu orau yn y mesurau rhydd, y Fedal Ryddiaith am ddarn o ryddiaeth, a'r Cadeirio ar gyfer cerdd gaeth. Yn ystod y seremonïau hyn mae aelodau'r Orsedd yn ymgasglu ar y llwyfan yn eu gwisgoedd arbennig, ynghyd â'u harweinydd, yr Archdderwydd, sy'n annerch y gynulleidfa. Uchafbwynt y seremonïau yr'r Archdderwydd yn datgelu enw'r buddugol. Ddilynir gan ddawns er anrhydedd i'r buddugol gan blant y fro.
Mae Seremonïau'r Orsedd yn unigryw i Gymru a'r Eisteddfod Genedlaethol, a daw miloedd yno i'w mwynhau.


Cymru a'r Byd
Bob blwyddyn, daw pobl o bob cwr o'r byd yn ôl i Gymru i gymryd rhan mewn seremoni arbennig a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Cynhelir y seremoni dan nawdd sefydliad Cymru a'r Byd, cymdeithas o bobl o wledydd drwy'r byd, â chysylltiadau â Chymru.
Ym 1998, dathlodd Cymru a'r Byd ei hanner canmlwyddiant. Fe'i sefydlwyd ym 1948 pan deimlodd grwp bychan o Gymry o'r lluoedd arfog a fu'n gwasanaethu yn y Dwyrain Canol yn ystod yr Ail Ryfel Byd fod angen corff cenedlaethol yng Nghymru i weithredu fel dolen gyswllt rhwng y wlad a chymdeithasau ac unigolion o Gymru ledled y byd.
Ers Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr ym 1948, pan gafwyd y cysylltiad cyntaf rhwng Cymru a'r Byd a'r Eisteddfod Genedlaethol, mae perthynas cryf wedi datblygu. Dros y blynyddoedd, mae miloedd wedi dychwelyd i Gymru ac i'r Eisteddfod, ac wedi eu croesawu yn ôl, o achos gwaith Cymru a'r Byd. Cynhelir seremoni Cymru a'r Byd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar ddydd Iau yn ystod wythnos y Brifwyl.


Ffrindiau'r Eisteddfod
Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol gannoedd o ffrindiau answyddogol - yn gystadleuwyr, yn wirfoddolwyr ac yn gefnogwyr. Bellach mae'r gwahoddiad yn un SWYDDOGOL!
Drwy ymuno â Ffrindiau'r Eisteddfod gallwch chi:
" dderbyn cylchlythyr blynyddol, gyda'r newyddion a'r clecs diweddaraf am weithgareddau'r Eisteddfod
" a derbyn rhaglen gyhoeddusrwydd cyn y cyhoedd, gan roi'r cyfle i chi achub y blaen ar archebu tocynnau i gyngherddau'r nos.


Eisteddfodau Abertawe

1863

1891

1907

1926

1964

1980

1982

 

 

 

Rhaglen Eisteddfod 1863

Rhagarweiniad
Er y gellir olrhain hanes yr eisteddfod i gystadleuaeth farddol a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yng nghastell Aberteifi yn 1176, yn niwedd y ddeunawfed ganrif mae gwreiddiau'r Eisteddfod Genedlaethol fodern fel yr adnabyddwn hi heddiw. Yn 1789 - blwyddyn y Chwyldro Ffrengig - penderfynodd cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain noddi a rhoi gwell drefn ar y mân eisteddfodau a gynhelid mewn tafarndai ar hyd a lled Gogledd Cymru ar y pryd.
Yn yr un cyfnod, roedd dychymyg byw Iolo Morganwg wedi esgor ar gymdeithas o feirdd o cherddorion o'r enw 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain', ond ni chysylltwyd yr Orsedd â'r Eisteddfod am y tro cyntaf tan 1819 pan gynhaliwyd cyfarfod arbennig iawn yng ngwesty'r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin.
Yn wahanol i heddiw, nid â chadeiriau a choronau y gwobrwywyd buddugwyr yr eisteddfodau hyn, ond â thlysau a medalau. Bwriad yr arddangosfa hon yw cyflwyno i gynulleidfa ehangach rai o'r medalau eisteddfodol sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfa Werin Cymru. Mae i bob un ei stori, a chawn glywed y stori honno trwy eiriau ffraeth yr Athro Hywel Teifi Edwards, sy'n awdurdod ar hanes yr Eisteddfod yn y cyfnod dan sylw.
Cawn wybod nid yn unig am gymeriadau eisteddfodau'r Gwyneddigion, ond hefyd am hynt a helynt Eisteddfodau Taleithiol ddechrau'r 19eg ganrif, Arglwyddes Llanofer ac eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni, a chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol swyddogol gyntaf yn Aberdâr ym 1861.

 

Cymraeg MorgannwgMentrau