Morgan John Rhys 1760 -1804
 












Drwy’r Gwynt a’r Glaw. 2 Hydref 2004

Mentrodd agos o hanner cant o eneidiau brwdfrydig allan yn y gwynt a’r glaw fore Sadwrn, 2ail o Hydref. Ein nod? Cofio am ein harwr Morgan John Rhys a fu farw dau gan mlynedd yn ôl.

Trefnwyd pererindod i olrhain camau’r gwr mawr wrth iddo goerdded o’i gartref i’r capel. Fyddai’r Morgan John ifanc wedi cerdded o fferm ei fam a’i dad yn y Graddfa, ar gyrion Llanbradach, pob cam i fyny i’r Hen Dy Cwrdd yng nghapel Hengoed. Teimlwyd mai annoeth fyddai gofyn i’r holl blant a oedd am ymuno â ni i i droedio’r llwybr o’r fferm i lawr i Ystrad Mynach gan fod y man cychwyn yn ddigon anhygyrch a’r llwybr i lawr o odre’r mynydd tuag at hen felin Llanbradach yn tu hwnt o arw.

Criw bach o ryw hanner dwsin o oedolion a gariodd gopi o ddiwygiad diweddaraf y Beibl o’r Graddfa i gapel Bryn Seion. Yno roedd gweddill y cerddwyr yn eu disgwyl gyda nifer dda o’r Heddlu a oedd yno i sicrhau diogelwch y cerddwyr ar hyd gweddill y daith.

Daeth plant, eu rhieni, eu hathrawon a chyfeillion yr achos ynghyd o Ysgolion Sul ac Ysgolion Dyddiol - yn unol yn ôl gweledigaeth Morgan John Rhys. Braf oedd gweld plant Ysgolion Cymraeg Bro Allta, Trelyn a’r Castell yno ynghyd ag ysgolion lleol Hengoed a Derwendeg; roedd cynrychiolaeth hefyd o Ysgolion Sul Bryn Seion, Horeb, Gelligaer a Thonyfelin, Caerffili.

Hir a serth yw’r rhiw sydd yn arwain i fyny o Ystrad Mynach i Gefn Hengoed, ond cerddodd yr holl bererinion – ag un ci – yn hapus ac ysgafndroed gan fwynhau sgwrs a jôc fach pob cam o’r ffordd!

Yn y capel cafwyd gwasanaeth byr ond hyfryd iawn dan arweiniad Mrs Mair Roberts a groesawodd pawb i’r Hen Dy Cwrdd gan ddiolch iddynt am eu cefnogaeth. Canwyd emyn a ddysgwyd gan bob un a oedd wedi cynllunio dod i gyfeiliant yr organ a ganwyd gan Mrs Eirlys Thomas. Tro Dr Elin Jones oedd hi wedyn i gyflwyno gwybodaeth am y dyn mawr mewn ffordd gynnil a bywiog.

Wedi cau â gweddi aeth pawb drws nesaf i Ysgol Gynradd Hengoed. Roedd y pennaeth, Mrs Brill, nid yn unig wedi rhoi ei bore Sadwrn i fyny i agor yr ysgol ond, hefyd wedi cerdded yr holl ffordd o Fryn Seion gyda ni. Diolch yn fawr iddi hi a hefyd i Somerfield yn Ystrad Mynach. Roedd rheolwr y siop wedi sicrhau lluniaeth iach ar gyfer pawb a fu’n cymryd rhan. Afal, tangerine a photel o ddiod ar gyfer pob un.

Diwrnod llwyddiannus iawn ar gyfer y pumed digwyddiad yn y calendr i ddathlu bywyd Morgan John Rhys.