Morgan John Rhys 1760 -1804
 













Llanbradach - America - Llanbradach 17 Ebrill 2005

Aeth Morgan John Rhys o Lanbradach i America ond daeth Jerry Hunter o America i Lanbradach.

Yn wr ifanc o Americanwr bu’r Dr Hunter yn canlyn cwrs astudiaethau Prydeinig tra’n fyfyriwr Prifysgol. Arweiniodd hynny at astudio Cymru fel rhan o Brydain ac yna, yn y pen draw dod draw i Gymru. Yma, dysgodd y Gymraeg a dod yn ddarlithydd prifysgol, a hynny yn ei iaith fabwysiedig, cyn priodi â Chymraes, ymsefydlu mewn cymuned Gymraeg a brwydro dros hawliau’r iaith a’r diwylliant cynhenid. Anodd iawn credu nad oes unrhyw waed Cymraeg yn ei wythiennau.

Nid yn unig daeth Dr Hunter o America ond, yn fwy penodol o Cincinati yn nhalaith Ohio, ac rydym yn gwybod, â pheth sicrwydd, i Morgan John Rhys ac, yn wir, John Evans ymweld â’r ardal honno yn ystod eu teithiau yn America dros ddau gant o flynyddoedd yn ôl.

Daeth cynulleidfa anrhydeddus iawn ynghyd i glywed Dr Hunter yng nghapel Seion, Llanbradach, prynhawn Sul, 17eg o Ebrill. Ac unwaith eto gwelwyd nifer o wynebau newydd ymhlith y nifer sylweddol o bobl a fu’n cefnogi bron i holl weithgareddau Cymdeithas Morgan John Rhys.

Testun y ddarlith oedd, “Cymry America, Radicaliaeth a Gweledigaeth” a chawsom glywed am Gymry a oedd wedi mynd i ochr draw’r byd er mwyn cael byw eu delfrydau o gael rhyddid i addoli, i wrthwynebu caethwasiaeth a hiliaeth, i weld cydraddoldeb i ferched ac i gyd fyw â’r Americanwyr brodorol. Yn wir dywedwyd bod radicaliaeth yn mynd â Chymreictod. Cawsom ddysgu am gyfnodolion a gyhoeddwyd gan yr amryw enwadau a’r safbwyntiau a fynegwyd ganddynt ar bwyntiau llosg y dydd.

Diddorol dysgu mai un consyrn mawr am gaethwasiaeth oedd y pwnc llosg o gymysgu crefydd a gwleidyddiaeth. Blinai rhai na ellid byw’n gydraddol gyda phobl os oedd lliw eu crwyn yn wahanol! Teimlai eraill y byddai pobl ddu neu goch eu crwyn yn fwy cydnaws petaent o leiaf yn Gristnogion.

Syndod oedd dysgu mai plaid radicalaidd oedd y blaid Weriniaethol yn America pan gafodd ei ffurfio ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tyrrodd Cymry America y tu ôl i rengoedd y blaid honno am ei bod yn radicalaidd - ie, plaid George W.Bush!

Aeth Dr Hunter ymlaen i egluro, ymhlith llu o bethau eraill, fel y bu i etholiad 1856 yn ei dro arwain at y Rhyfel Cartref, a hynny i raddau helaeth oherwydd ei bod yn frwydr rhwng y carfannau oedd o blaid ac yn erbyn caethwasiaeth. Yn wir, gwelai rhai o’n cydwladwyr hon yn “Ryfel Sanctaidd”, gan gefnogi Unoliaethwyr y Gogledd yn eu safiad yn erbyn caethwasiaeth a safbwynt y Cynghreirwyr.

Yn sicr, profodd y prynhawn yn un o’r digwyddiadau gorau eto yng nghalendr blwyddyn y Gymdeithas. Cafodd y siaradwr gyflwyniad bywiog a hynny gan Gadeirydd y prynhawn, Dafydd Islwyn. Yn sicr, cawsom ein hysbrydoli gan Jerry Hunter a fydd yn fodd o sicrhau bod digwyddiadau eraill wedi i’r rhaglen bresennol ddod i ben. Gweler manylion yn y rhifyn hwn o ddarlith yr Athro Geraint Jenkins yn Llanbradach ar 18fed o Fai am ein digwyddiad nesaf.