Morgan John Rhys 1760 -1804
 












Iolo Morganwg - darlith yr Athro Geraint Jenkins

Daeth cynulleidfa anrhydeddus, gan gynnwys sawl person adnabyddus iawn o fyd hanes, i Lyfrgell newydd Llanbradach nos Fercher 18fed i Fai, i glywed yr Athro Geraint Jenkins, Cyfarwyddwr Canolfan Astudaiethau Celtaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i glywed hyn oll wrth iddo draethu ar “Syniadau Gwleidyddol a Heddychol Iolo Morganwg”.

A darlith neilltuol o dda oedd hi, hefyd. Darlith dan gadeiryddiaeth fedrus Dafydd Islwyn ar Ddydd Ewyllys Da. Cafwyd cyfieithu ar y pryd medrus iawn gan Rhys Wynne o Fenter Iaith Caerffili.

Roedd hwn, hefyd, yn achlysur ar gyfer lansio Canolfan Adnoddau yn y Llyfrgell hardd, newydd hon. Dyma’r llyfrgell agosaf at fan geni Morgan John Rhys ac mae’n briodol taw yma, felly, y bydd y cenedlaethau i ddod yn gallu troi i mewn i astudio’r dyn a’i gyfnod. Mae ein diolch yn fawr i staff Llyfrgell y Sir am ddarparu cabinet o lyfrau a phapurau sydd yn ymwneud â’r pwnc. (Yn Sir Caerffili rydym yn elwa’n fawr o allu galw ar adnoddau llyfrgellol yr hen Went yng Nghwmbrân yn ogystal â gwasanaeth yr hen Forgannwg Ganol ym Mhen y Bont.) Yn sicr roedd arddangosfa ddiddorol iawn yno ar gyfer darlith Geraint Jenkins.


Yr Athro Geraint Jenkins yn Llyfrgell Llanbradach

 

 

“Y Gwir yn Erbyn y Byd”

“Neddy the Stonecutter”, Edward Williams Junior neu, fel yr adwaenwn ef bellach, Iolo Morganwg (ie, gydag un “n”) oedd testun y ddarlith olaf ym mlwyddyn dathlu dau gan mlwyddiant marwolaeth Morgan John Rhys.

“Dyn mwyaf gwybodus y ddeunawfed ganrif.” Gwr cymhleth, diddorol, od, hunanol, cwerylgar, pigog, heriol; un a oedd yn misogynist, yn “Myfiaidd”, yn Jacobin, yn Undodwr (“Unitarin Quaker” chwedl ef) ac yn un o dadau cenedlaetholdeb Cymraeg. Efallai mai’r gair gorau a ddefnyddiwyd i’w ddisgrifio oedd gair a fathwyd ganddo fe ei hunan sef, “unigryw”. Un a allai ddechrau ffrae hyd yn oed petai wedi ei gloi mewn ystafell ar ei ben ei hun!

Ond yn ôl at Iolo. Roedd e wedi ymddiddori’n fawr yn y Madogwys yn America a Morgan John Rhys, wrth gwrs, wedi mynd allan yno. Credai Iolo y dylid prynu tir yn gyfreithlon oddi wrth Indiaid Gogledd America tra bu Morgan John Rhys yn herio cadfridogion America am eu triniaeth o’r Indiaid a hynny ar y 4ydd o Orffennaf yng ngwyneb dathliadau jingoistig dathliadau’r America newydd.


Ond, Iolo. Paradocs llwyr, un yn llawn gwrthgyferbyniadau. Un a oedd yn casáu menywod ond yn caru plant. Yn wir roedd y Siartwr hwn yn credu na ddylai unrhyw un gael y bleidlais os nad oedd yn briod! Beirniadai Fethodistiaid, rhyfel ac offeiriaid a chredai mewn mynd yn syth at lygad y ffynnon.

Ysgrifennodd at Napoleon Bonaparte yn ei annog i greu Cynghrair o Genhedloedd y Byd er diogelu heddwch yn y dyfodol. (Yn wir, nid oedd unrhyw arwydd fod ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth cyn adeg y Chwyldro Ffrengig). Beirniadai George Washington yn llym am i hwnnw ddefnyddio caethweision. Galwyd ef o flaen y Prif Weinidog a'r cyngor cyfrin oherwydd ei ddaliadau a’i ymlyniad wrth ddysgeidiaethau Tom Paine a’r “Rights of Man” (1791). Cyfeiriai at William Pitt, y Prif Weinidog ar y pryd, fel “The Bottomless Pitt”.

“Beth allwn ni ei wneud, felly, yn yr unfed ganrif ar hugain, i gofio Iolo ?” Hyn yng ngwyneb yr holl anghyfiawnderau a’r rhyfeloedd sydd o’n cwmpas. Byddai Iolo, fel ein harwr Morgan John Rhys wedi creu twrw, codi cywilydd, meddai Geraint Jenkins. Gallwn ninnau wneud rhywbeth drwy ysgrifennu gair at y Prif Weinidog, dyna, yn ddiau y byddai Iolo wedi’i wneud. Codi cywilydd ar arweinyddion y byd am wneud dim tra bo holocaust yn digwydd dan eu trwynau yn Affrica - 30,000 o blant yn marw pob dydd. Mae’n rhaid bod Iolo Morganwg a Morgan John Rhys yn troi yn eu beddau.

Y ddarlith olaf, efallai, ond nid diwedd y gân o bell ffordd. Mae’n fwriad gan y Gymdeithas osod plac yn yr Hen Dy Cwrdd yng Nghefn Hengoed, diolch i gyfraniad hael gan Gyngor Cymunedol Gelligaer. Mae’r Wefan yn mynd yn ei blaen yn y gobaith y bydd gennym rywbeth i’w gynnig i’r ysgolion pan fydd y flwyddyn academaidd newydd yn cychwyn ym mis Medi. Gobeithio y bydd defnydd ar y ganolfan adnoddau yn Llyfrgell Llanbradach ac y bydd, o leiaf, un Ddarlith Goffa Morgan John Rhys pob blwyddyn o hyn ymlaen.


Rhan o arddangosfa Morgan John Rhys
yn Llyfrgell Llanbradach