Casgliad Llyfrgell Llanbradach
Os ewch i Lyfrgell newydd Llanbradach, sydd ond yn agor pnawn Llun, Mercher a Gwener gyda llaw, fe welwch gabinet gwydr hardd. Yn y cabinet hwn mae casgliad o lyfrau yn ymwneud â’r dyn mawr ar gyfer astudio’i fywyd a hynny mor agos ag yr oedd modd i’w fan geni yn y Graddfa.
Y Cabinet yn Llyfrgell Llanbradach
Y plac sydd ar ffrynt yr Hen Dŷ Cwrdd
Fe ddadorchuddiwyd plac i gofio’r un dathliadau ar 4 Ebrill 2006 yn yr Hen Dŷ Cwrdd yn Hengoed a daeth y Cyngor ati i osod y plac ar dalcen ffrynt yr hen adeilad. Roedd y Cyngor yn awyddus mai ar y tu allan y dylai’r plac hwn fod fel bod y sawl a ai heibio yn gallu ei weld. Lluniwyd y plac mewn dull a fydd yn gyffredin i bob safle o werth hanesyddol yn y Bwrdeistref Sirol.
Mae diolch y Gymdeithas yn fawr i Wasanaeth Treftadaeth Cyngor Caerffili, yn enwedig Miss Helen Wilson am waith gyda’r plac ac am gefnogi ymdrechion y Gymdeithas yn gyffredinol. Felly, hefyd gwasanaeth y Llyfrgelloedd a Mrs Elizabeth Roberts yn arbennig noddodd ddarlithoedd ac a ddarparodd y cabinet.
|