Morgan John Rhys 1760 -1804
 













Ei Hanes yn Gryno

Ganwyd Morgan John Rhys yn Fferm y Graddfa uwchben lle mae pentref Llanbradach nawr. Adeilad o gerrig oedd y fferm gyda tho teils cerrig oherwydd roedd y defnydd yma yn yr ardal. Roedd Morgan yn cadw’n gynnes drwy eistedd ger y tân. Roedd e’n darllen ei Feibl yng ngolau’r’ gannwyll. Roedd e’n byw gyda’i dad a’i fam, John ac Elizabeth a’i bedwar brawd, John, Rees, Thomas a William.

Doedd tad Morgan ddim eisiau iddo fe fod yn ffermwr yn unig, felly anfonodd e Morgan i Ysgol Gylchynol i ddysgu darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Yna aeth i ysgol David Williams, Pwllypant. Doedd dim llawer o blant na phobl yn derbyn addysg yr adeg honno, felly roedd Morgan yn lwcus iawn.

Gwelodd fod llawer o bobl yn yr ardal yn methu darllen nac ysgrifennu ac felly fe ddechreuodd ysgolion rhad ac Ysgolion Sul. Roedd Morgan hefyd yn Weinidog ac am ddysgu pobl am Dduw. Roedd yn ddyn clyfar iawn. Helpodd y bobl dlawd ac aeth allan i Ffrainc er mwyn rhoi Beiblau i’r bobl yno.

Aeth i America yn 1794 lle bu’n ymladd dros hawliau’r Indiaid Cochion a’r caethweision croenddu. Sefydlodd dref Beulah yn Sir Cambria. Bu farw'r diwrnod cyn ei ben blwyddyn yn bedwar deg pedwar. Roedd ganddo wraig a phump o blant. Mae wedi ei gladdu ym Mhennsylfania.