1 Gweithdai Ysgolion 2 Taflen Dwristiaeth 3 Cyfeirlyfr o Lyfrau 4 Hanesion Llafar |
Teithlyfr a thaith gerdded Twristiaeth (2008). Gyda chefnogaeth gan gronfa'r Loteri, mae Menter Caerdydd wedi datblygu taflen dwristiaeth yn olrhain datblygiad yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. I gydfynd â'r daflen mae podcast o ddisgrifiadau lleoliadau'r daith. Gallwch lawrlwytho y podcast yma
Cliciwch yma i ddarllen y Teithlyfr >> Llyfryn
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a: Heledd Wyn |
|
Lansio y Teithlyfr Ar yr 8fed o Orffennaf, 2008, roedd Menter Caerdydd yn lansio taflen dwristiaeth gyda thaith gerdded. Dr. John Davies fu'n tywys y cyhoedd o amgylch canol y ddinas am oddeutu awr a hanner yn cychwyn o dafarn y Tair Pluen. Aeth y daith yn mynd heibio rhai o leoliadau mwyaf hanesyddol y ddinas a'u perthynas gyda datblygiad yr iaith yng Nghaerdydd drwy'r oesoedd. Yn dilyn y lansiad mae taflen a phodcast o'r daith ar gael i'w lawr lwytho o wefan Menter Caerdydd. Hyd yn oed os ydych chi'n byw yn y ddinas neu yn ymweld rydych chi'n siwr o ddysgu rhywbeth. Mae'r taflenni wedi cael eu dosbarthu i ysgolion a'r cyhoedd yn dilyn y lansiad. Hefyd cynhaliwyd lansiad arbennig ar yr 8ed o Awst am 11o'r gloch y bore yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2008 yng Nghaerdydd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch a: Heledd Wyn |
|