The Grail / Volume 4, No. 13 (1911)
Tafodieithoedd Morgannwg
Gan T. Jones, Ysgol y Cyngor, Dunraven, Treherbert
Edrychid yn bur aml gan yr anwybodus a'r anghyfarwydd gyda gradd o ddirmyg ar dafodieithoedd yn gyffredin fel rhywbeth y dylid eu hesgymuno o'r tir. Cynhwysant, meddent hwy, y fath nifer o eiriau sathredig fel mai y peth goreu i wneud ohonynt ydyw eu diarddel, a mabwysiadu iaith safonol yn eu lle. Yn ffortunus fedrwn ni y Cymry ddim gwneud hyn oblegid ein tafodieithoedd ydyw prif sylfaen ein holl ymddiddanion a'n llenyddiaeth.
Mae gennym nifer o dafodieithoedd, a mwy fyth o is-dafodieithoedd, ond hyn sydd ryfedd, fel mynn rhai gredu yn rhagoriaeth y naill dafodiaith ar y llall. Ac nis gwn am un iaith gwerin o holl dafodieithoedd Cymru ag y dirmygid cymaint arni ag iaith gwyr Morgannwg.
Peth digon cyffredin yw clywed pobl Dyfed a Gwynedd yn difrïo iaith Morgannwg a chyhoeddi ei hanghyfiawnderau a'i diffygion fel petae eu hiaith hwy yn safon llên y genedl.
Bu hefyd mewn bri nid yn unig lenorion ein gwlad, ond hefyd gan bregethwyr Morgannwg. Ysgwaethiroedd, maent hwy bellach yn ei gwadu ac yn ymarfer y Ddyfedaeg, neu yn dynwared y Wyndodeg gan dybio eu bod yn fwy yn y ffasiwn, ac mai sarhâd ar eu dychymyg fyddai seinio yr a fain a'r cydseiniau celyd.
Da fyddai pe bae iaith y pwlpud yn fwy cydweddol â'r iaith lafaredig.
Ond, er graddol farw o'r Wenhwyseg, ni chaiff ei geiriaduriaeth na'i neulltuolion ieithyddol fynd ar ddifancoll. Yn hyd y blynyddoedd diwethaf yma bu llawer o hel ar eiriau Morgannwg, a mawr y blas a gafwyd yn y gwaith.
Heblaw cael helfa dda o eiriau, cafwyd i'r ystên bopeth sydd yn anwyl gan bobl y broydd a'r bryniau a garant swyn swn hen benhillion {sic} telyn, hen ddiarhebion, ofergoelion, ystoriau pentan, chwedlau a llên gwlad. Os am ystên lawn, ewch i'r encilion lle trig hen bobl a lle mae'r nwyd Gymreig yn bur ei naws ac yn loyw fel y grisial.
Yno, y clywch hwynt yn "wlîa" - nid ydynt yn "siarad" neu barablu "jargon," ond yn chwedleua yn ôl arfer yr hen Gymry. Ond o hir graffu, gwelir ddefnyddio ganddynt eiriau a brawddegau cyn anhybyced i ardaloedd ereill o Gymru fel yr edrychid arni fel iaith arall hollol.
Ac felly y mae mewn gwirionedd, mae treigliad amser wedi gwneud gwisg ei geiriau yn fwy syml, ac wedi dwyn i fewn gyfnewidiadau tarawiadol iawn. Hefyd, mae graddau y dirywiad yn mwyhau fel yr ewch o orllewin Morgannwg i'r dwyrain.
I'r neb sydd erioed wedi talu rhith o sylw i'r Wenhwyseg, tarewir ef ar unwaith â symlrwydd a phertrwydd ei hymadroddion. Nodweddir hi gan ryw urddas cartrefol, mae iddi osgo chwimwth sydd yn cyd-fyned â meddwl cyflym y deheuwr. Er amlyced yw hyn i'r rhai sydd yn gyfarwydd â'r iaith, ofnwn rhag eu cyhuddo o bartiaeth yn canu ei chlodydd a dyfynnwn farn arall.
Nid ydys yn traethu ond gwirionedd hen, a chaiff Wyndodwr ddatgan ei farn am ei symlrwydd. Meddai y Dr. Pughe, mewn llythyr o'i eiddo i Mr. Cox, a ddyfynnir yn "History of Monmouthshire," "The general character of this dialect (i.e. the Gwentian) is a majestic simplicity, the expressions being always full and free from contractions." Mae y dyb yma yn hollol gywir oddigerth y frawddeg "free from contractions." Nid yw yn rhydd o'r anffawd yma mwy nag unrhyw dafodiaith arall.
Eto, mae symudiadau ei brawddegau yn lled gyflym, mor gyflym na fedr mo'r Gogleddwr eu deall hwy, a chwyna yn enbyd weithiau. "Cwyna yr olaf (sef y Gogleddwr) eu bod yn methu deall gwyr y De, gan fuaned eu parabl; a phrin y mae gan y Deheuwr ddigon o amynedd i wrandaw ar wyr y Gogledd, gan mor hirllaes ac araf y torant eu geiriau" ("Llythyraeth yr Iaith Gymraeg," tud. 34, Silvan Evans, 1861).
Gorffwys parhad a defnyddioldeb unrhyw dafodiaith ar dri o alluoedd; sef, gallu i hwyluso seiniau geiriau, gallu i fabwysiadu a chydweddu geiriau newyddion ac estronol, a gallu i gadw geiriau oesoedd cynt yn ei meddiant. Wedi ymchwil manwl gellir dweyd fod pobl Morgannwg wedi llwyddo i wneud hyn tu hwnt i fesur.
Mae yn eu meddiant ddigon o eiriau - rhai miloedd mewn gwirionedd. Mae eu hiaith yn gyfoethog o eiriau tlysion, swynfawr; mae yn doreithiog o eiriau sarrug a thaiog; mae ganddi chwedleuon parod ac atebion parotach fyth, a stôr o cyffelybiaethau a geiriau deublyg; ie, mae ynddi ddigon o ynni a rhamant i fod eto o ddefnydd parhaol.
Pan gofir safle ddaearyddol Morgannwg, natur arwynebedd y fro, - cyn agosed ydoedd i ymosodiadau y gelyn ac i'r llanw Seisnig, - y syndod yw pa fodd y galluogwyd hi i wrthsefyll yn erbyn cefnllif y Sacson, y Norman, a'r Sais, heblaw sôn am oresgyniad masnachol ein dyddiau ni.
Cyn dechreu o'r Goresgyniad Masnachol tua 1760-1795, cawn taw Cymraeg bur oedd i'w chlywed hyd a llêd y sir. Dyma'r gwrthwynebedd a'r difrodydd mwyaf andwyol ar yr Wenhwyseg. Newidiodd y dull o fyw, cymerodd masnach lofaol le yr amaethyddol, a chafodd hyn, felly, effaith ddistrywgar ar fywyd ac iaith amaethyddol y sir. Ond hyd yn oed pe canieteid hyn, mae ynddi eto ddigon o undeb corfforol i'w gwneud yn allu nerthol yn y tir.
Hwyrach cawn fwrw golwg agosach ar ffiniau tafodieithoedd Morgannwg a'u neilltuolion ieithyddol. Byddai unrhyw ymdrech ar hyn o bryd i nodi yn gywir y ffiniau yn anfoddhaol o herwydd prinder defnyddiau at y gwaith. Ond cyn belled ag yr â sylwadaeth ac ymchwiliad mae yma dair tafodiaith amlwg, sef, y Wenhwyseg Bur, neu dafodiaith Blaena a Bro Morgannwg, tafodiaith Cwm Nedd, a thafodiaith Cwm Tawe. Penderfynnir pob ffin yn ôl rhyw arwyddion ieithyddol, a cheisiwn eu nodi.
Mae sain y llafariad a yn penderfynnu un ffin. Cofier fod dwy a ym Morgannwg, y naill yn hir a'r llall yn fain. Ceir y cyntaf i'r gorllewin o'r Cefn Mawr a'r Foel Fynyddau, a'r a fain (nodir hi yn yr ysgrif fel ä) i'r dwyrain o'r un ffin. Perthyn y cyntaf i'r Ddyfedaeg, ond mae'r a fain yn briodoledd neilltuol o'r Wenhwyseg Bur.
Mae trigiant yr a fain, fel y dywedwyd eisoes, i'r dwyrain o'r Cefn Mawr sydd rhwng Cwm Nedd a Chwm yr Afan {sic; = Cwm Afan}. Cynnwys y ffin yma sy'n rhedeg o'r Kenffig {sic: = Cynffig}, ar hyd drum u Cefn Mawr, hyd at Aberdâr a Merthyr, gymoedd poblog Morgannwg, sef yr Afan, Corrwg, y Garw, Ocwr, Lai, Rhondda, Cynon, Taf, a Rhymi, a bro Morgannwg.
Adnabyddir y mynyddoedd ym mhen uchaf y sir fel y "Bleinia" (Blaenau). Bu llawer ymgyrch rhwng "Gwyr y Bleinia" a "Gwyr y Fro" nes aeth yn "wetiad" gan yr olaf, "Myswynoch rhog Gwyr y Bleinia," neu "Myswynoch rhog Gwyr y Fro," neu "Myswynoch rhog Gwyr y Gloran," - trigolion Cwm y Rhondda yr rhai {sic} oedd yn nodedig am wneud difrod ar feusydd ffrwythlon y Fro, a dwyn eu gwartheg blithion.
I'r gorllewin o'r ffin yma y mae gwyr Castell Nedd, neu fel yr adwaenid hwy ar lafar gwlad "Gwyr y Mera." Ni fynnai gwyr y Fro gael un cyfathrach â hwynt, oblegid
"Yr Abbey Jacs a'r Mera breed
'Dos dim o'u bäth nhw yn y byd."
Penderfynnir y ffin nesaf yn ôl y modd y defnyddir "a" neu "e" yn sill olaf geiriau. Mae sylwi ar ynghaniad y gair bach "ia" neu "ie" yn ddigon i'n dwyn i gasgliad lled gywir. Ac er ychwanegu y prawf sylwer ymhellach sut yr ynghaner y geiriau ac "a" yn y sill olaf - pa un ai "petha" ynte "pethe"; "llawan" ynte "llawen," ac yn y blaen. Fe'n cynhorthwyir yma gan ffeithiau ereill, sef arwynebedd y tir, a phwysigrwydd trefydd Abertawe a Chwm Nedd.
Mae cors wlyb Crymlin yn un pen o'r ffin rhwng tafodiaith Cwm Nedd a thafodiaith Cwm Tawe, ac y mae pwysigrwydd marchnataol Abertawe a Chwm Nedd yn penderfynnu i raddau, rhediad y ffin o'r gors ymlaen, rhwng Llansamlet a Sciwen. Mae yn ymrannu yn agos i Cwmdu {sic}, ac oddiyno â i'r Hirfynydd, gan ddilyn Sarn Helen hyd at Bont Nedd Fechan.
I'r dwyrain o'r ffin yma yr "a" sydd gyffredin, megys "ia," "llawan," "patall" (padell), "catar" (cadair).
"Tri pheth sy'n llonni'r bachan,
Gweld gwraig y ty'n llawan," etc
I'r gorllewin o'r un ffin yma "e" sydd gyffredin.
Nodwedd neilltuol iawn o eiddo holl dafodieithoedd Morgannwg ydyw caledu'r seiniau meddal - g, b, d - i fod yn rhai celyd - c, p, t - megys "maci" (magu), "popi" (pobi), "catw" (cadw). Ceir y seiniau yn niwedd geiriau deusill. Clywir yr acen galed yma o Afon Lliw hyd Sir Fynwy
Mae d yn cael ei dilyn gan i yn troi yn "ji", megys jiofadd (dioddef); jiocal (diogel); aiff f ar goll yn lled aml, ac y mae h bron darfod a bod yn llythyren fyw os na fydd angen am bwyslais neilltuol, e.g. y nhw yn ("nhw"), dihîna, a phan yn dilyn y rhagenw ym dodir h i fewn, e.g. ym harian i, ym hallwath i; ond mae wedi ei llwyr golli mewn rhai geiriau, megis ar wa'än, gwaniath (gwahaniaeth),a dîno (dihuno).
Try s yn sh pan (1) yn gyfartal â si, neu ji neu ja yn Seisnig; (2) mewn geiriau unsill, megys mish (mis), prish (pris), (3) ynghanol geiriau - mishol, tishan (teisen) shishwrn (scissors); ac (4) pan bo d neu t yn cael eu dilyn gan i, neu u, megys, scitsha (esgidiau), tsha (tua). Mae rhai geiriau, serch hyny, wedi arbed y dirywiad yma, megys siwr (sywr, ac nid shiwr na shwr), plêsar, swgir, crîs (crys), cros (croes), tros.
Gwelir, oddiwrth hyn o lith gymaint ddyddordeb sydd yn y Wenhwyseg i'r ieithyddwr, ac hyd yn oed, i'r darllennydd cyffredin.