Beth a olygwn wrth dreftadaeth iaith?
Mae iaith yn ein clymu at le, mae'n ein cysylltu â phobl ac yn ein cysylltu â ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â'r lle hwnnw - a, thrwy'r cysylltiadau hyn, mae'n ein helpu i gysylltu â'n gorffennol a'i ddeall. Mae'r Athro Bill Lancaster o Brifysgol Northumbria wedi dweud mai iaith yw ein 'prif eiddo treftadaeth … sy'n ein gwreiddio i le ac yn ein cysylltu â'n gilydd … a dyma un o'r rhoddion mwyaf y gallwn ni ei adael i'n plant'.
' …mae pob gair coll yn golygu byd coll arall'
Siaredir rhwng 6,000 a 7,000 o ieithoedd yn y byd ac mae dros hanner y rhain dan fygythiad difodiant dros y ganrif nesaf. Gan nad oes unrhyw draddodiad ysgrifenedig gan y rhan fwyaf o'r ieithoedd hyn, pan fyddant wedi mynd byddant wedi mynd am byth.
Y Deyrnas Unedig yw un o'r gwledydd mwyaf ieithyddol amrywiol yn Ewrop, gyda rhyw 350 o ieithoedd yn cael eu siarad. Mae rhai o'r cymunedau iaith hyn yn hirsefydlog, ac eraill wedi'u sefydlu'n llawer mwy diweddar. Mae rhai'n gymunedau mawr, ac eraill yn llawer llai. Mae rhai ieithoedd wedi hen fynd, ond yn dal yn rhan o'n bywydau bob dydd drwy ddefnyddio geiriau ac ymadroddion sydd wedi goroesi mewn ieithoedd a thafodieithoedd eraill. Nid oes un o'r ieithoedd na'r tafodieithoedd hyn wedi datblygu ar ei phen ei hun. Maent wedi esblygu dros amser, gan fenthyg ac addasu geiriau ac ymadroddion o'i gilydd wrth i bobl symud rhwng pentrefi, trefi, rhanbarthau, gwledydd a chyfandiroedd.
Gallwn weld yr amrywiaeth iaith hon o'n hamgylch yn ein bywydau bob dydd, yn y geiriau a'r ymadroddion a ddefnyddiwn, mewn enwau, enwau lleoedd, ac mewn geiriau arbenigol sy'n gysylltiedig â thraddodiadau, masnachau a ffyrdd o fyw lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Gallwn ganfod enghreifftiau ohonynt mewn dogfennau a llawysgrifau hanesyddol, llenyddiaeth, drama, caneuon ac atgofion siaradwyr yr ieithoedd ei hun.
Ar gyfer pob cymuned iaith, mae cysylltiad agos iawn rhwng iaith â'i thraddodiadau, ei diwylliant a'i threftadaeth ac mae iaith yn rhan annatod ohonynt.
Y Loteri Genedlaethol - Treftadaeth a'r Iaith