Llinell amser Merthyr gan ganolbwyntio ar elfennau
o hanes Capel Soar, Pontmorlais
a sefyllfa’r Gymraeg ochr yn ochr a hyn.
Llyfryddiaeth
Hanes eglwys Ynysgau gan D.D. Williams ( M.T. 1900 )
The history of Ynysgau church gan y Parchg. J Seymour Rees ( M.T 1954 )
Hanes eglwys Crist yn Zoar, Merthyr gan R. Griffiths ( M.T 1869 )
1749-1750 : Capel Annibynnol Ynysgau yn cychwyn yn Heol y Bont.
1798 : Achos gan yr Annibynwyr yn y “ long room “ tu ôl i’r Crown Inn
1800 : Abertawe oedd tref fwyaf Cymru, poblogaeth tref Merthyr yn 7705
1802-03 : Capel Soar ac Ynysgau yn agor ar y safle presennol.
1803-1809 : Parchg D Lewis yn weinidog
1810 : Parchg Samuel Evans yn weinidog tan 1833
1810 : Gwaith haearn Cyfarthfa y mwyaf yn y byd ac yn cyflogi 1500 o weithwyr.
1825 : Castell Cyfarthfa yn cael ei adeiladu yn gartref gan William Crawshay. Gwaith addasu ar y capel
1831: Terfysgoedd difrifol ym Merthyr yn erbyn amgylchiadau gwaith, hawliau gweithwyr a chyflogau. Crogwyd Dic Penderyn ar Awst 13eg.
1836 : Y capel dan ofalaeth y Parchg Benjamin Owen tan 1862
1841 : Adnewyddu ac ymhelaethu Soar ar gost o £2000. Talodd y gynulleidfa am y gwaith ac ad-dalwyd y cyfan dros gyfnod o 6-9 mis.
Y gweinidog oedd y pensaer ac yn gyfrifol am y gwaith cynllunio.
Poblogaeth yn 52863, tref fwyaf Cymru.
1845 : Nifer o ddynion a merched oedd yn arwyddo cofrestr priodas trwy ddefnyddio marc yn hytrach na llofnod :-
Gwrywod : 62%
Benywod : 84%
Erbyn 1880 roedd y canran yma wedi disgyn i :
Gwrywod : 28%
Benywod : 41%
O bosib roedd y gostyngiad yma yn rhannol o ganlyniad i ddeddf addysg 1870 oedd yn golygu fod addysg wladwriaethol ar gael i bawb.
1847 : Adroddiad Brad y Llyfrau Gleision
Allan o 78 o ysgolion Sul, roedd 31 yn cynnal gwersi drwy’r Gymraeg yn unig, 33 yn y ddwy iaith ac 14 yn uniaith Saesneg. Golyga hyn fod 87% o ddisgyblion allan o gyfanswm o 10551 yn derbyn gwersi yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.
Roedd 68 o ysgolion dyddiol yn bodoli, dim un yn darparu addysg drwy’r Gymraeg yn unig, 22 yn y ddwy iaith a 46 trwy gyfrwng y Saesneg. Cyfanswm y plant oedd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y ddwy iaith oedd 996 a 2339 drwy’r Saesneg.
1851 : Poblogaeth yn 76804
1852 : Cyflog y gweinidog yn codi o £5 y mis i £7 ac yn codi eto yn 1857 i £8 y mis.
1865 : Parchg D Jones yn cael ei urddo’n weinidog
1881-1911 : Parchg John Thomas yn weinidog
1891 : 68.4% o boblogaeth y fwrdeistref yn medru’r Gymraeg mewn poblogaeth o 110569 dros 2 flwydd oed
1901 : 57.2% o’r boblogaeth yn medru ‘r Gymraeg allan o 63681 o drigolion dros 3 mlwydd oed.
1911 : 50.9% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg allan o 74597 o drigolion dros 3 mlwydd oed.
1921 : Poblogaeth yn 80116
1929-1957 : Parchg J T Rogers yn weinidog
1938 : Aelodaeth y capel yn 276
1939 : Poblogaeth - 61852
1951 : Poblogaeth - 61142
1961 : Poblogaeth – 59008
1965 : 84 o aelodau gan y capel
1972 : Agor Ysgol Gymraeg Santes Tudful gyda 20 o blant. Erbyn Chwefror 2007 tyfodd y nifer i 400.
1976 : Agor Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug gyda 20 o blant ac erbyn dechrau 2007 roedd 180 ar y gofrestr.
1991 : 7.5% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, yn ystod y cyfnod yma roedd cyflwr y capel mor wael, doedd dim modd gwneud defnydd ohono.
1992 : Y Ganolfan Gymraeg yn agor yn hen festri capel Soar, Pontmorlais.
1995 : Agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun gyda 188 o ddisgyblion. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol 2006-07 roedd 948 o ddisgyblion ar y gofrestr.
1997 : Rhoddwyd to newydd ar y capel ar gost o £200,000
1999 : Ail agorwyd y capel a chynhaliwyd priodas yno.
2001 : 10.2% o boblogaeth y fwrdeistref yn siarad Cymraeg, ond y canran yn uwch ymysg y grŵp oedran 3 -15 mlwydd oed, 24.52%. Ymysg y grŵp yma roedd y canran uchaf’ ym Merthyr Vale ( 30.39% ) a’r isaf yn y Gurnos ( 17.79% )
2003 : Sefydlu Menter Iaith Merthyr Tudful
2006 : Chwech o aelodau sy’n weddill ac mae’r capel bellach yn cael ei ystyried fel adeilad cofrestredig. Cynlluniau ar y gweill i wneud defnydd gwahanol o’r capel a’i adnewyddu a’i drawsnewid i fod yn theatr gymunedol.
Cynhyrchwyd cofnod o hwn ar ffurf llinell amser yn broffesiynol a’i arddangos ar un o’r muriau yn y Ganolfan Gymraeg, cartre’r Fenter Iaith ym Merthyr.