Cymraeg Morgannwg Map

Tro Trwy’r Fro!

Prosiect newydd a chyffrous yw Tro trwy’r Fro sydd yn rhoi’r cyfle i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr ailddarganfod eu hamgylchedd. Mae’r teithiau unigryw yma yn rhoi cyfle i bobl ddysgu fwy am yr ardal leol a’i hanes, rhannu gwybodaeth, hanes, straeon ac atgofion personol o’r ardal trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwirfoddolwyr sydd yn ein tywys ar y teithiau ac rydym yn cynnig y cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb rhannu eu gwybodaeth leol, i drefnu ac arwain eu teithiau eu hun trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dechreuodd y prosiect ar y 18fed o Orffennaf 2009, pan aeth criw o bobl ar daith hanesyddol o Gwm Llynfi gyda Brian Roderick. Roedd y daith yma’n llwyddiant mawr a dywedodd pawb eu bod nhw wedi mwynhau dysgu am hanes diwydiannol yr ardal.

“Roedd y tywyswr yn wych. Er fy mod i’n dod o Faesteg yn wreiddiol, roedd y daith yn ddiddorol iawn. Dwi’n edrych ymlaen at y daith nesaf!” Yvonne Matthews, Porthcawl.

Yn yr ail mewn cyfres o deithiau byr ar draws y sir, tywysodd Gareth Huw Ifan ni o amgylch ardal Llangynwyd, lle dysgon ni fwy am hanes a llên gwerin yr ardal. Taith fendigedig arall!

Bydd Menter Bro Ogwr yn rhedeg y teithiau yma a rhai newydd yn ystod 2010 felly edrychwch allan am fwy o wybodaeth.

Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i arwain teithiau. Oes gennych chi syniad am daith? Hoffech chi arwain taith yn eich ardal chi? Os oes diddordeb gyda chi drefnu taith ar y cyd gyda Menter Bro Ogwr cysylltwch â Marged i drafod ymhellach!

01656 732 200 Marged@menterbroogwr.org

Pamffledi Gwybodaeth Teithiau Tro Twy’r Fro!

taflen Tro trwy’r Fro 1 – Taith Hanesyddol o Gwm Llynfi
taflen Tro trwy’r Fro 2 – Taith Hanes a Llên Gwerin Llangynwyd

 

 

Tro Trwy'r Fro

Tro Trwy'r Fro

Tro Trwy'r Fro

Tro Trwy'r Fro

Tro Trwy'r Fro

 

Cymraeg MorgannwgMentrau