Cymraeg Morgannwg

 

 

Y Fari Lwyd

 

Wel, dyma ni’n dŵad,
Gyfeillion diniwad
I 'mofyn am gennad i ganu.

 

 

 

Pecyn gwybodaeth
ar gyfer Y Fari Lwyd

 

Llun o’r Fari Lwyd gan William Brown, Llangynwyd
Llun o’r Fari Lwyd
gan William Brown, Llangynwyd

------------------------------------------------

 

Erbyn heddiw mae’r traddodiad o fynd a’r Fari Lwyd o le i le mewn rhannau o’r hen sir Forgannwg yn digwydd rhwng cyfnod y Nadolig a’r Ystwyll. Yn amlach na pheidio grwpiau sydd wedi eu ffurfio’n benodol ar gyfer atgyfodi’r traddodiad fydd rhain, ond nid felly oedd hi pan roedd tai a thafarndai mewn pentrefi bychain a rhai trefi yn derbyn ymweliad gan y Fari ‘slawer dydd. Ond o ble ddaw’r arferiad yn y lle cyntaf?

Disgrifiwyd arfer y Mari Lwyd fel “defod geffyl gyn-Gristnogol y gellir ei chysylltu ag arferion tebyg mewn llawer rhan o’r byd”....... ai chysylltid hi yng Ngogledd Cymru â’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Y mae’n debyg, fodd bynnaf, y ceid ymweliadau gan barti’r Fari Lwyd dros gyfnod o ddyddiau bob tro, a bod cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod arbennig yn adeg y Nadolig wedi mynd yn frau iawn.

Cludid y Mari Lwyd oddi amgylch, a’r arwydd cyntaf a geid yn aml byddai gweld yr anghenfil crwydrol yn syllu i mewn i’r ystafell neu weithiau yn dangos ei ben drwy ei wthio drwy ffenest llofft.......pan ddeuai’r orymdaith at dŷ y bwriedid ymweld ag ef, byddai’r arweinydd yn curo’r drws a’r cwmni’n canu rhigymau traddodiadol...........
Byddai’r cwmni oddi allan yn ffraeth-daeru â’r perchen tŷ ac yn canu penillion byrfyfyr y disgwylid i’r rhai oddi mewn eu hateb yr un mor ddifyfyr.......Yna byddai’r Mari Lwyd yn dod i mewn ac yn dal sylw yn arbennig ar y merched, eu gwthio’n chwareus a chynnig eu brathu bob yn ail a gweryru, heblaw siarad.......wedi canu, dawnsio a chwarae’n ddireidus byddai’r cwmni yn eistedd i fwyta ac yfed.
Trefor M Owen ( Welsh Folk Customs )

Edrychwch ar y llun a disgrifiwch yr hyn welwch chi gan fanylu ar y deunyddiau a’r ffordd mae’r Fari wedi’i haddurno.
Geirfa : clychau, rhubanau, gwydr, calico, gorchudd, defnydd, potel, pren, penglog, esgyrn, clustiau, sgleinio, tincial, plethu, clymu, cyfrwy, diddanu, ofni,  
twrw, rhialtwch, gwyn, coch, prydferth, cuddio, gosod, paentio, gwnïo, pwytho.

 

...........................................

 

 

 

Llun o’r Fari Lwyd gan William Brown, Llangynwyd
Darlun lliw o’r Fari Lwyd
oddi ar wefan Casglu’r Tlysau
gan Thomas Davies, Pentyrch
yn y flwyddyn 1932.

 

-----------------------------------

Ar y golofn chwith ceir gair / ymadrodd sy’n berthnasol i draddodiad y Fari Lwyd
ac ar y dde disgrifiad llawnach sy’n manylu ar ystyr yr ymadrodd.
Cyfatebwch y gair i’r disgrifiad.

Ystwyll

tafodiaith yr ardal o gwmpas Pentyrch a rhannau eraill o ddwyrain Morgannwg

cennad

y person sy’n bennaf gyfrifol am dywys y Fari o le i le

gosgordd

yfed a mwynhau rhialtwch gŵyl y Nadolig

Siarsiant

pennill pedair llinell sy’n unigryw i Forgannwg

Wenhwyseg

gofyn am hawl i ganu neu ddod mewn i’r tŷ

gwaseila / cwnseila

cymeriadau direidus oedd yn creu hwyl ac anhrefn

Meriman

y criw o bobl oedd yn hebrwng y Fari

pwnco

deuddegfed dydd wedi’r Nadolig, gŵyl i gofio am ymweliad y doethion a’r baban Iesu

macsu

yr unigolyn sy’n cyfeilio i’r grŵp wrth ganu’r ffidl

triban

canu

Pwnsh a Shuan

y broses o wneud cwrw

 

 

........................................

Mae’r penillion canlynol yn ddilyniant traddodiadol gydag ambell fersiwn mwy diweddar a ddefnyddiwyd pan atgyfodwyd yr arferiad o fynd a’r Fari o gwmpas yn ardal Pentyrch.

 

1.Mae Mari Lwyd lawen
Yn dod i’ch tŷ’n rhonden
A chanu yw ei diben mi dybiaf.

2.Rhowch glywad wŷr difrad
O ble ry’ch chi’n dŵad
A beth yw’ch gofyniad gaf enwi.

Defnyddiwch y rhestr o eiriau a geir ar y diwedd i gwblhau’r penillion ac yna ewch ati i lunio paragraff ar ffurf adroddiad papur newydd i ddarlunio yn eich geiriau chi yr hyn sy’n digwydd gan gychwyn rhywbeth tebyg i hyn :

Pennill 1 a 2
Mae’r Fari yn mynd o gwmpas y pentref gan aros wrth ddrws ambell dŷ ac yn canu pennill gan ddisgwyl ateb. Fe fydd y trigolion yn ateb trwy ofyn i’r criw tu allan o ble mae’n nhw’n dod a beth yn union mae’n nhw eisiau.

3. O ardal y Creigiau
Pentyrch a’r .............
Fe ganwn ein geiriau am gwrw.

4. Derbyniwn yn .............
Ymryson ( competition ) yr awen
I gynnal y gynnen drwy ganu.

5. Mi ganwn am wythnos
Ac hefyd bythefnos
A ....... os bydd achos baidd i chwi.

6. Mi ganwn am flwyddyn
Os cawn ..........i’n canlyn
Heb ofni un gelyn y gwyliau.

7. Gollyngwch yn rhugil ( fluent, ready )
Na fyddwch yn gynnil
O! Tapiwch y faril i’r ..........

8. O cenwch eich nodau
Ac felly wnawn ninnau
A’r sawl a fo.........gaiff gwrw.

9. Fe ganwn yn awr
I Ferched y ..........
Am ddiod ac enllyn ( relish ) i’n llonni.

10. I’r Fari sychedig
Fe rown ein calennig
A’r cwrw yn ........... i’w pheswch.

11. Derbyniwn yn llawen
Y croeso mewn casgen
Cyflawnwyd y diben mi dybiaf.

 

ffisig              cyffiniau
Fari               Wawr
Dduw            llawen 
mis                orau

 

 

...............................................

 

 

 

Mewn erthygl a ysgrifennwyd yn y cylchgrawn Trysorfa’r Plant ym mis Rhagfyr 1939 gan y Parchg Gomer Roberts ( Pontrhydyfen ), mae’r penillion canlynol wedi eu nodi fel rhai oedd yn cael eu canu yn yr ardal lle roedd y golygydd yn byw ( W Nantlais Williams, gweinidog capel  Bethany, Rhydaman )

Wel, dyma enw’r feinwen
Sy’n codi gyda’r seren,
A dyma’r warsel ore’i chlod
Sy’n canu a bod yn llawen.

Wel dyma’r ddysgyl g’redig
A bwyntiwyd erbyn N’dolig,
A’i sŵn a’i sain sy’n mynd ymhell,
A beth sy’n well na chlennig?

A gawn ni trwy eich ffafwr
Eich cegin neu eich parlwr,
Neu eich neuadd, os cawn ddod,
Nid ym i fod ond chwegwr.

Os digwydd i’r criw gael croeso cynnes yna fe fydden nhw’n gadael dan ganu pennill o ddiolch a gwerthfawrogiad. Ewch ati i lunio pennill neu driban eich hun yn rhoi diolch am groeso gan gynnwys y geiriau hyn yn y pennill :

ffarwel, croeso, bendith, rhadlon, digon, hael, di-ail    

Ond os nad oedd croeso i’r criw, nid pennill o ddiolch a genir ond geiriau o felltith am beidio bod yn garedig a chynnig bwyd a diod. Defnyddiwch y geiriau isod i lunio pennill sy’n dangos fod y criw yn anhapus gan nad oedd croeso iddyn nhw.

diflas, atgas, surbwch, gwaglaw, tywyll, oeraidd, oer, lloer 

Y fari

 

 

............................................

 

Dyma gymeriad adnabyddus iawn yn ei amser, yn sefyll yn dalog wrth ochr y Fari ym mhentref Llangynwyd, ger Maesteg. Sianco’r Castell yw hwn ac mae’n amlwg ei fod e’n ymfalchïo yn y ffaith taw fe yw ceidwad a thywysydd y Fari.

Dychmygwch eich bod yn un o’r parti ac ewch ati i ysgrifennu am y profiad o dreulio noson yng nghwmni’r parti dan arweiniad Sianco.

Geirfa : wedi cyffroi, petrus, hwyl, doniol, cynhyrfus, trwsiadus, balch, cefn syth, sgleinio, het silc, mwstas, gorchymyn, tywys, arwain, difrifol,
cadw trefn, gwrando, canu, chwarae, gwledda, yfed, mwynhau, paratoi, addurno, twrw, diddanu, cwmni, croeso, difyrrwch, cnocio, hapus, crynu, oer.  

 

.........................................

 

Sianco'r Castell

 

.........................................

 

Mewn llyfr o’r enw “ The Vale of Glamorgan : Scenes and Tales among the Welsh” ( 1839 ) mae’r awdur, Charles Redwood yn sôn am yr arfer o addurno pen y ceffyl trwy ddweud :

“ As it is seldom convenient to the young sparks to expend much money on this finery, they contrive to coax their sweethhearts into a loan of the silken fillets, and rosettes, and other ornaments which may be wanted. – When Twelfth Night comes, they carry about their Mari Lwyd from house to house, making at each a pretty rumpus. “

Lluniwch ddeialog / sgwrs rhwng un o fechgyn parti’r Fari a’i gariad wrth iddo fe geisio ei pherswadio i gyfrannu defnydd sy’n perthyn iddi, a dyw hi ddim yn barod iawn i wneud, er mwyn addurno pen y ceffyl.

Geirfa : ymbil, dillad, sidan, rhubanau, gwerthfawr, drud, aberth, hunanol, cyfrannu, rhoi, parod, cyndyn, newydd, tlawd, gwario, benthyca, bodlon, pert, cariad, ffafr, diolchgar, anrheg, gwirion, hyll, ofnus, salw

 

 

.......................................................

 

 

 

 

 

.................................................

 

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth greu’r pecyn hwn :

Allan James, Diwylliant Gwerin Morgannwg ( Gomer 2002 )

Charles Redwood, The Vale of Glamorgan : Scenes and tales among the Welsh ( London 1839 )

Llyfr y Nadolig Cymreig. Golygydd : Ifor ap Gwilym ( Christopher Davies )

Casgliad o ddogfennau perthnasol yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan

Gwefan treftadaeth Mentrau Iaith Morgannwg Gwent ar www.morgannwg.org

 

Cyflwyniad ar gyfer y safle we

Crëwyd y pecyn gwybodaeth yn dilyn noson o hwyl yn dathlu’r Hen Galan yn Ninas Powys yn Ionawr 2006 dan arweiniad parti’r Fari Lwyd o Aelwyd Caerdydd. Trwy gyflwyno ychydig o wybodaeth ynghylch traddodiad y Fari a chynnig amrywiaeth o weithgareddau i’w cwblhau, y nod yw ysgogi dysgwyr profiadol i ddod i wybod mwy am yr arfer yn y gobaith o greu diddordeb a all o bosib greu awydd i atgyfodi’r traddodiad yn ardal Y Fro.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys llunio deialog, creu disgrifiad, cyfansoddi pennill ac ysgrifennu adroddiad ar ffurf erthygl i bapur newydd.

 

Diolch i’r canlynol am eu parodrwydd i gynorthwyo :

Allan James, Llantrisant am gyngor a chyfeillgarwch.

Meinwen Ruddock, Sain Ffagan am drefnu caniatâd i ddefnyddio’r tâp sain.

Niclas Walker, Sain Ffagan am ymchwilio i a darparu ffynonellau addas.

 

 

 

 

 

 

 

 

  Bwrdd yr Iaith Gymraeg gweHendre Cronfa Dreftadaeth y Loteri