Prosiect Treftadaeth Ddigidol 2009 - 2011
This div will be replaced
.
Dewiswch Stori Digidol
Mae Menter Caerffili’n cychwyn prosiect newydd cyffrous i gofnodi treftadaeth ein hardal trwy gyfrwng straeon digidol.
Ariennir y prosiect hwn gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac yn bwriadu cofnodi profiadau unigol pobl yr ardal a’u teuluoedd.
Mae’r ardal wedi newid cymaint dros y blynyddoedd o le amaethyddol, i le diwydiannol, ac wedyn i’r lle rydym yn ei adnabod heddiw.
Mae’r hen draddodiad o ailadrodd hanesion ein cyndadau’n darfod, felly rydym yn colli cymaint o straeon unigryw – straeon unigolion yr ardal: straeon eich teulu efallai.
Beth ydy’ch atgofion o dyfu lan yn yr ardal? A wnaethoch swydd sydd wedi diflannu erbyn hyn? Pa newidiadau a ydych wedi’u gweld yn yr ardal? Oes atgofion y Rhyfel neu ddiwydiant glo gyda chi? Beth wnaethoch yn ystod gaeaf eiraog neu haf poeth? Ydych wedi dychwelyd i’r ardal ar ôl symud i ffwrdd? Ydych yn cofio clywed am hanesion aelodau hŷn eich teulu?
Nawr, mae’r cyfle i’w cadw wrth wneud stori ddigidol. Cynhaliwn weithdai ar draws y sir er mwyn galluogi pobl i recordio darnau pwysig eu hanes neu hanes eu teuluoedd. Does dim angen profiad cyfrifiadurol neu sgiliau technolegol, byddwn yma i’ch helpu.
Peidiwch â chadw’ch straeon i’ch hunan, cofrestrwch yma er mwyn creu stori ddigidol!
|
Storiau Digidol >>
Dewisiwch >>
Taith Canada Owen Rhys
Fy Mrawd gan Owain Jones
Newid gan Helen Parfitt
Ann Williams yn Hel Achau
Howard Badham - Penallta and Me
Senghenydd ac Abertridwr
Foot and Mouth
The Terraces
Elizaberth Lloyd
David Parry
Fferm Penrhiwffawyddog
Cliff James
Megan Golding
Nia Golding
Sali Golding
|