Ar y golofn chwith ceir gair / ymadrodd sy’n berthnasol i draddodiad y Fari Lwyd
ac ar y dde disgrifiad llawnach sy’n manylu ar ystyr yr ymadrodd.
Cyfatebwch y gair i’r disgrifiad.
Ystwyll |
tafodiaith yr ardal o gwmpas Pentyrch a rhannau eraill o ddwyrain Morgannwg |
cennad |
y person sy’n bennaf gyfrifol am dywys y Fari o le i le |
gosgordd |
yfed a mwynhau rhialtwch gŵyl y Nadolig |
Siarsiant |
pennill pedair llinell sy’n unigryw i Forgannwg |
Wenhwyseg |
gofyn am hawl i ganu neu ddod mewn i’r tŷ |
gwaseila / cwnseila |
cymeriadau direidus oedd yn creu hwyl ac anhrefn |
Meriman |
y criw o bobl oedd yn hebrwng y Fari |
pwnco |
deuddegfed dydd wedi’r Nadolig, gŵyl i gofio am ymweliad y doethion a’r baban Iesu |
macsu |
yr unigolyn sy’n cyfeilio i’r grŵp wrth ganu’r ffidl |
triban |
canu |
Pwnsh a Shuan |
y broses o wneud cwrw |